I gychwyn arni, bydd angen i chi ddweud wrthym pam eich bod yn cysylltu â ni.
Dewiswch un o’r isod.
Cysylltiadau lleol
Mae gan eich CPS lleol fanylion cyswllt ar gyfer pob un o’r 14 Ardal CPS ar draws Cymru a Lloegr.
Yn ogystal ag ymholiadau cyffredinol, ceir manylion cyswllt ar gyfer yr amddiffyn, ac ar gyfer y cyfryngau lleol a rhanbarthol.
Mae rhestr o holl swyddfeydd Ardal y CPS ar gael YMA.
Adrodd trosedd i’r heddlu
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn ddioddefwr neu’n dyst i drosedd, mae gennych chi ran hollbwysig i’w chwarae. Mae angen eich help arnom i ddweud wrthym ni ac weithiau wrth y llys beth ddigwyddodd er mwyn i ni allu gwneud penderfyniadau gwrthrychol ac ar sail gwybodaeth.
Efallai eich bod yn teimlo’n ypset ac nad ydych chi’n siŵr am adrodd hyn rydych chi wedi’i weld, ond gallai’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i’r heddlu neu eraill arwain at gyfiawnder ac atal rhagor o niwed.
Mae sawl ffordd o roi gwybod am droseddau i'r heddlu:
Argyfyngau: Mewn argyfwng dylech ffonio 999 a gofyn am yr heddlu
Sefyllfaoedd nad ydynt yn argyfwng: Mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng, dylech chi ffonio 101 a chewch eich trosglwyddo i’ch heddlu lleol.
Adrodd yn ddienw
Os ydych chi’n dymuno aros yn ddienw, gallwch roi gwybod am drosedd i Crimestoppers drwy ffonio
Mae canolfannau trydydd parti yn lleoliadau diogel a niwtral yn y gymuned lle gall pobl roi gwybod am droseddau casineb, cam-drin domestig ac ymosodiadau rhywiol heb orfod cysylltu â’r heddlu’n uniongyrchol.
Gall unrhyw un ddefnyddio’r cyfleuster yma, dim ots os ydynt yn ddioddefwr, yn dyst, neu’n rhywun sydd â gwybodaeth y mae angen i’r heddlu ei chael. Gallwch chi roi gwybod am ddigwyddiadau mewn canolfan adrodd i drydydd parti hyd yn oed os nad ydych am i’r heddlu ymchwilio i’r mater.