Skip to main content

Accessibility controls

  1. Cartref
  2. Dewin y Dinesydd

Eich rheswm dros gysylltu â ni

I gychwyn arni, bydd angen i chi ddweud wrthym pam eich bod yn cysylltu â ni.

Dewiswch un o’r isod.

Mae adborth yn golygu safbwynt unigolyn am eu profiad o ddelio â ni neu eu barn am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth. Gall unrhyw un roi adborth, cadarnhaol a negyddol.

Mae cwyn yn golygu bod unigolyn, neu eu cynrychiolydd, sydd wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r mater y maen nhw eisiau cwyno amdano, yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth.

Mae'r Cynllun Hawl y Dioddefwyr i Adolygiad yn rhoi’r hawl i ddioddefwr ofyn am adolygiad o un o benderfyniadau’r CPS i beidio â chyhuddo neu i ddod â phob achos i ben.

Mae ymholiad cyffredinol yn gais am wybodaeth gyffredinol am y CPS a chyngor ynghylch pwy dylid cysylltu â nhw os oes gennych chi ymholiad penodol.

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawliau i chi weld gwybodaeth swyddogol sy’n cael ei chadw gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn rheoli sut rydym yn prosesu eich data ac yn nodi’r hawliau statudol sydd ar gael i chi.